BBC Cymru Fyw

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Published
Llanelli 4-2 Caerfyrddin
Teithiodd Caerfyrddin i Barc Stebonheath yn Llanelli ar gyfer gêm gynta'r dydd.
Y tîm cartref enillodd o 4-2 gan godi o'r safle olaf ond un i'r seithfed safle yn y tabl.
Roedd Caerfyrddin i lawr i 10 dyn am chwarter awr olaf y gêm wedi i Liam McCreesh gael ei anfon oddi ar y cae.
Llanelli aeth ar y blaen wedi pum munud ar ôl i Ryan Batley ganfod y rhwyd ac o fewn pum munud roedden nhw ymhellach ar y blaen gyda gôl Martin Rose.
Fe sgoriodd Liam Thomas dros Gaerfyrddin wedi 28 munud ac er bod Antononio Corbisiero wedi lwyddo gyda chic o'r smotyn wedi 34 munud i Lanelli fe lwyddodd Thomas i ganfod y rhwyd eto bedwar munud yn ddiweddarach.
Ond doedd dwy gôl Caerfyrddin ddim yn ddigon.
Yn yr ail hanner fe lwyddodd Luke Bowen i sgorio pedwaredd Llanelli a sichrau y pwyntiau.
Port Talbot 6-1 Lido Afan
Roedd 'na un gôl yn fwy yn ail gêm y dydd rhwng y cymdogion Port Talbot a Lido Afan
Y tîm cartref aeth ar y blaen wedi naw munud wrth i Lewis Harling ergydio'n gywir.
Roedd hi'n gyfartal wedi 17 munud pan rwydodd Mark Jones.
Ond wedyn daeth ail gôl Port Talbot gan David Brooks wedi 26 munud.
Doedd 2-1 ar yr hanner ddim yn sgor rhy ddrwg.
Ond roedd yr ail hanner yn stori dra wahanol.
Llwyddodd Brooks i ganfod y rhwyd am yr eildro wedi 55 munud cyn i Lido Afan fynd lawr i 10 dyn.
Cafodd Paul Evans gerdyn coch.
Ac fe gollodd yr ymwelwyr chwaraewr arall pan gafodd Anthony Rawlings ei anfon oddi ar y cae.
Gyda 11 yn erbyn naw llwyddodd Port Talbot i fynd ymhellach ar y blaen gyda gôl gan Carl Payne wedi 69 munud.
Collodd y tîm cartref chwaraewr 10 munud yn ddiweddarach wrth i Jeff White dderbyn ei ail gerdyn melyn.
Ond yn yr amser a gafodd ei ganiatau am anafiadaullwyddodd Port Talbot i ganfod y rhwyd ddwywaith, Ryan Green a Leigh de Vulgt.
O ganlyniad mae Port Talbot wedi codi i'r pumed safle.