Gwylwyr y Glannau yn chwilio am ddyn ym Mhenllŷn
- Cyhoeddwyd
Cafodd Gwylwyr y Glannau a hofrennydd o lu awyr Y Fali eu galw yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi syrthio oddi ar glogwyn ym Mhen Llŷn brynhawn dydd Iau.
Mae timau Gwylwyr y Glannau o Aberdaron ac Abersoch yn chwilio am y dyn yn ardal Porth Ysgol ger Aberdaron.
Does dim gwybodaeth ynglŷn â'r anafiadau'r dyn hyd yn hyn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol