Y chwilio ar ben ar ôl i ddillad gael eu canfod ar draeth Caergybi

Mae'r chwilio wedi dod i ben yn ardal Caergybi ar ôl i ddillad dyn gael eu darganfod toc cyn 7am ddydd Iau.

Roedd y dillad yn cynnwys jîns, crys t a siwmper gyda hwd.

Cafodd y darganfyddiad ei wneud ger traeth Newry yng Nghaergybi.

Roedd 'na baced o sigarets gyda'r dillad.

Bu Gwylwyr y Glannau, bad achub Caergybi a Heddlu Gogledd Cymru yn rhan o'r chwilio.

Ond doeddwn nhw ddim wedi dod ar draws dim byd amheus.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oes 'na adroddiadau bod neb ar goll.

Daeth y chwilio i ben toc cyn 11am.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.