Gardd aeafol ym Modnant ar agor i'r cyhoedd

Gardd Bodnant Image copyright Gardd Bodnant
Image caption Caiff ymwelwyr weld blodau a phlanhigion gwahanol yn y gaeaf yn yr ardd

Am y tro cyntaf erioed, mae Gardd Bodnant yn Sir Conwy yn agor yn y gaeaf.

Mae'r atyniad eisoes yn denu degau o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ond mae'r staff yn gobeithio y bydd gweld y lle yn y gaeaf yn brofiad newydd i bobl.

Mae 'na atyniad newydd yn benodol ar gyfer cael ei weld a'i fwynhau yn y gaeaf yn yr ardd.

Dydi plannu yn ystod y misoedd oer ddim yn hawdd ond mae'r prif arddwr, Troy Smith a'i dîm wedi creu'r ardd sy'n addo bod yn brydferth, yn lliwgar ac yn bersawrus.

"Fe wnaethom ddewis y rhan yma o'r ardd am fod yr haul yno drwy'r gaeaf ac mae gardd aeafol yn ddibynnol ar olau...." eglurodd Mr Smith.

Amrywiaeth

"Mae'r ardd hefyd rhywfaint yn is fel bod y persawr yn cael ei gadw o fewn yr ardd.

Image copyright Gardd Bodnant
Image caption Mae'r staff wedi bod yn gweithio'n galed i sichrau y bydd yr ardd yn agor dros y gaeaf

"Mae'n bosib i bobl ymweld â hi beth bynnag fo'r tywydd."

Mae'r gwaith wedi costio £35,000.

Ymhlith yr hyn a welir yno y mae Daphnes, Rubus gwyn, coeden bedwen a lonicera.

"Mae hi wedi bod yn her ond fe fydd yr ymwelwyr yn mwynhau'r gwaith, ac mae'r rhai sydd wedi bod yma yn ystod y flwyddyn wedi cael gweld y camgymeriadau wnaed.... yn ogystal â'r llwyddiannau," ychwanegodd Mr Smith.

"Mae gardd yn y gaeaf yn gwbl wahanol i un yn yr haf, gyda'r coed sydd wedi colli eu dail yn edrych yn fwy o gerfluniau gyda'u siapiau diddorol."

Mae 'na dros 20,000 o eirlysiau wedi eu plannu yn ogystal â nifer o blanhigion sy'n blodeuo yn y gaeaf.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.