BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i'r Gleision yn erbyn y Dreigiau

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
Gleision 12-10 Dreigiau
Llwyddodd Rhys Patchell gyda'i droed gicio i roi buddugolaeth hir ddisgwyliedig i'r Gleision yn erbyn eu cymdogion, Dreigiau Gwent.
Dim ond saith gêm ranbarthol mae'r chwaraewr 19 oed wedi ei chwarae.
Ond roedd ei gicio'n allweddol wrth sicrhau pedair cic gosb i roi 12 pwynt i'r Gleision.
Daeth unig gais y gêm yn yr ail hanner i'r ymwelwyr wrth i Andy Tuilagi durio.
Roedd yr amgylchiadau yn rhai anodd iawn yn y glaw trwm yng Nghaerdydd ac roedd cae Parc yr Arfau yn fwy tebyg i gors na chae rygbi.