BBC Cymru Fyw

Gêm gyfartal i Abertawe yn erbyn Reading

Published
image captionCapten Abertawe Ashley Williams, yn cael ei daclo gan un o chwaraewyr Reading
Reading 0-0 Abertawe
Abertawe wnaeth lwyr reoli'r hanner cyntaf yn Stadiwm Madejski yn erbyn Reading.
Ond fe wnaeth y tîm cartref ddeffro yn yr ail hanner i sicrhau pwynt yr un i'r ddau dîm.
Roedd hi'n anodd credu mai Abertawe oedd yr ymwelwyr gyda sawl cyfle iddyn nhw sgorio yn yr hanner cyntaf.
Chafodd ceidwad Yr Elyrch, Michel Vorm fawr i'w wneud yn yr hanner cyntaf.
Roedd rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi targedu'r gêm fel un sicr i ennill tri phwynt.
Er na fydd o'n siomedig o gael pwynt, fe fydd yn siomedig am y ffaith na allai'r tîm ganfod cefn y rhwyd.
Cafodd Miguel Michu, prif sgoriwr yr Uwch Gynghrair, sawl cyfle ond methu manteisio.
Fe wnaeth Reading ganfod y rhwyd, ond roedd y dyfarnwr Mike Jones yn dweud bod Ki Sung-Yeung wedi llawio'r bêl.
Ond roedd 'na ergyd i Abertawe wrth i Michu ddod oddi ar y cae tua 10 munud cyn diwedd y gêm yn amlwg wedi cael anaf.
Ond mae pwynt o'r gêm wedi sicrhau bod Abertawe wedi codi i'r 9fed safle.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 1-1 Manchester United