BBC Cymru Fyw

Canlyniadau Uwchgynghrair Cymru

Published
Y Seintiau Newydd 1-0 Bala
Mae gan Y Seintiau Newydd wyth pwynt o fantais ar frig Uwchgynghrair Cymru ar ôl eu buddugoliaeth yn erbyn Y Bala.
Mike Wilde sgoriodd wedi 20 munud.
Aberystwyth 0-2 Y Drenewydd
Wedi 35 munud fe roddodd Zac Evans yr ymwelwyr ar y blaen ar Goedlan y Parc.
Daeth ail gôl Y Drenewydd, i sicrhau'r fuddugoliaeth gan Kieran Mills-Evans ar yr awr.
Mae buddugoliaeth Y Drenewydd yn eu gweld yn codi i'r wythfed safle.
Lido Afan 0-3 Port Talbot
Fe fydd yr ymwelwyr yn mwynhau'r daith adref o Lido Afan i Bort Talbot ar ôl sgorio tair gôl.
Daeth y gyntaf i David Brooks wedi 31 munud cyn i Carl Payne eu rhoi ymhellach ar y blaen wedi 37 munud ac wedi 46 munud daeth y drydedd gan Lewis Harling.
Airbus 2-2 Cei Connah
Gêm gyfartal oedd hi ar y Maes Awyr diolch i un o chwaraewyr Cei Connah wnaeth rwydo i'w gôl ei hun.
Roedd hi'n gyfartal di-sgôr ar yr hanner cyn i'r ymwelwyr fynd ar y blaen gyda gôl Rob Jones wedi 51 munud.
Daeth gôl arall iddyn nhw o fewn pum munud gan Jamie Petrie.
Ond daeth Airbus yn ôl wrth i Steve Tomassen sgorio wedi 64 munud.
A gyda gôl i'w rwyd ei hun gan Jamie Wynne dri munud yn ddiweddarach fe wnaeth Airbus sicrhau pwynt yn erbyn Cei Connah.
Mae'r pwynt yn golygu eu bod yn codi i'r ail safle yn y tabl, wyth pwynt tu ôl i'r Seintiau.
Caerfyrddin 1-0 Llanelli
Carl Evans ganfodd unig gôl y gêm wedi 21 munud.
Prestatyn v Bangor
Cafodd y gêm ei gohirio tan nos Wener Rhagfyr 28. Fe fydd hi'n cael ei chynnal ym Mangor. Fe fydd y gêm ar Ddydd Calan oedd i fod ym Mangor yn cael ei chwarae ym Mhrestatyn am 3.15pm.