BBC Cymru Fyw

Uwchgynghrair Cymru

Published
image copyrightNot Specified

Mae Airbus UK Brychdyn wedi codi i'r trydydd safle yn nhabl Uwchgynghrair Cymru yn dilyn buddugoliaeth yn Llanelli.

Sgoriodd Tom Field i roi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i ddwy gan Craig Moses adfer y fantais i Lanelli.

Roedd hi'n gyfartal ar yr egwyl wedi i Wayne Riley sgorio un arall i Frychdyn.

Yna yn yr ail hanner fe ychwanegod Riley un arall cyn i Jordan Johnson gwblhau'r fuddugoliaeth wedi 78 munud.

Yn gynt yn y penwythnos, roedd Y Seintiau Newydd wedi ymestyn eu mantais ar frig Uwchgynghrair Cymru.

Nos Wener fe roddodd y pencampwyr grasfa o 5-1 i Gei Connah, gyda phum chwaraewr gwahanol yn sgorio'r goliau.

Yna ddydd Sadwrn fe gafodd gêm Bangor yn y Bala ei gohirio oherwydd y tywydd drwg.

Oherwydd hynny, roedd gan Brestatyn gyfle i godi i'r ail safle pe bai nhw'n llwyddo i guro'r Drenewydd yng Ngerddi Bastion.

Er i Andy Parkinson roi'r tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr, fe ddaeth yr ymwelwyr yn ôl yn gryf cyn yr egwyl gyda goliau Andrew Jones a Zak Evans yn eu rhoi nhw ar y blaen.

Ychwanegodd Jones un arall wedi 57 munud, ac roedd hynny'n ormod o fynydd i Brestatyn, a fydd yn wynebu Bangor ddwywaith yn y deng niwrnod nesaf.

Yn wir fe ildion nhw un arall wedi 73 munud wrth i Craig Whitfield gael un arall i'r Drenewydd, sy'n codi o'r ddau waelod gyda'r fuddugoliaeth yma.

Ac i roi'r halen ar y briw fe gwblhaodd Andrew Jones ei hat-tric wedi 79 munud wrth godi'r bêl yn gelfydd dros y golwr i'w gwneud hi'n 5-1, a doedd gôl hwyr gan Ross Stephens yn fawr o gysur i Brestatyn.

Canlyniadau

Nos Wener -

Y Seintiau Newydd 5-1 Cei Connah

Lido Afan 0-0 Aberystwyth

Caerfyrddin 1-0 Port Talbot

Dydd Sadwrn -

Y Bala v. Bangor wedi ei gohirio

Prestatyn 2-5 Y Drenewydd

Dydd Sul -

Llanelli 2-4 Airbus UK Brychdyn