Erlyn mwy am ymosod ar staff y gwasanaeth iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae ffigyrau'n dangos cynnydd sylweddol yn nifer yr erlyniadau am ymosodiadau ar staff y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fe ddeliodd y llysoedd â thua 200 o achosion yn y 12 mis hyd at fis Hydref - tua'r un nifer ag yn ystod y 18 mis blaenorol.
Cafodd yr ystadegau eu cyhoeddi i gyd-fynd ag ymgyrch newydd i rybuddio pobl yn erbyn cam-drin corfforol a geiriol yn erbyn gweithwyr y gwasanaeth iechyd dros gyfnod y Nadolig.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru Lesley Griffiths: "Ni fyddwn yn ddiodde' unrhyw drais yn erbyn staff y gwasanaeth iechyd."
Yn y cyfamser mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynyddu eu presenoldeb mewn tri ysbyty.
Alcohol
Dechreuodd patrôl ychwanegol yr wythnos ddiwethaf yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddai presenoldeb yr heddlu hefyd i'w weld yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.
Bydd yr heddlu yno o fin nos tan yr oriau man dros gyfnod y Nadolig gan fod disgwyl mwy o bobl yno oherwydd digwyddiadau'n ymwneud ag alcohol.
Dywedodd Ms Griffiths bod mwy o gydweithio rhwng y gwasanaeth iechyd, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi arwain at y ffaith y bydd erlyn pobl sy'n ymosod ar weithwyr iechyd yn llawer mwy tebygol o ddigwydd.
Ychwanegodd bod bron i 200 o erlyniadau llwyddiannus wedi digwydd rhwng mis Ebrill 2010 a mis Hydref 2011.
Mae ffigyrau Llywodraeth Cymru yn dangos 387 o erlyniadau yn y 30 mis rhwng Ebrill 2010 a Hydref 2012, sy'n golygu bod tua 200 o erlyniadau yn y 12 mis hyd at Hydref eleni.
Dedfrydau
Mae'r dedfrydau yn cynnwys:
- 30 mis o garchar i glaf wnaeth fygwth nyrs gyda chyllell;
- 12 wythnos o garchar i glaf a fu'n ymosodol yn hiliol a geiriol tuag at staff mewn meddygfa;
- 16 wythnos i garchar i glaf a wnaeth gam-drin ac ymosod ar nyrs mewn adran ddamweiniau.
Yn ogystal, mae'r llysoedd wedi cyflwyno 564 o gosbau eraill megis cosb benodol a gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ennill gwobr am eu gwasanaeth nhw sy'n cyflwyno llythyr i unrhyw berson sy'n cam-drin neu sy'n dreisgar tuag at staff yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd.
Mae'r llythyr, sy'n cael ei anfon o fewn saith niwrnod i unrhyw ddigwyddiad, yn gam cyntaf o bedwar sy'n arwain at orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae posteri sy'n rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru yn rhybuddio "fe fydd cam-drin geiriol neu gorfforol o'n staff yn arwain at erlyniad", ac fe fydd y posteri'n cael eu harddangos mewn ysbytai, meddygfeydd, fferyllfeydd, deintyddfeydd ac optegwyr ar draws Cymru.
Straeon perthnasol
- 28 Awst 2011
- 10 Mehefin 2011