BBC Cymru Fyw

Graham Wagg yn ymestyn ei gyfnod efo Morgannwg

Published
Mae'r cricedwr Graham Wagg wedi arwyddo cytundeb sy'n ymestyn ei gyfnod gyda Morgannwg hyd ddiwedd tymor 2015.
Ymunodd y gŵr 29 oed â Morgannwg yn 2010 ac mae o wedi sicrhau ei le yn y tîm cyntaf.
Roedd ei ymddangosiadau'r tymor yma yn brin ar ôl iddo dorri asgwrn yn ei droed mewn gêm bencampwriaeth yn erbyn Essex.
Yn y cyfamser mae Ruaidhri Smith, 18 oed, wedi cael cytundeb datblygu ar gyfer y tymor nesaf.
Cafodd Smith, sy'n wreiddiol o Glasgow, ei enwi yn Chwaraewr Y Flwyddyn yn yr Academi.
Mae'n datblygu ei gêm dros y gaeaf yn Awstralia.