BBC Cymru Fyw

Undeb Rygbi Cymru yn ystyried cae artiffisial ar gyfer Stadiwm y Mileniwm

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionMae 'na sawl beirniadaeth wedi bod am gyflwr y cae
Mae Undeb Rygbi Cymru yn ystyried gosod cae artiffisial yn Stadiwm y Mileniwm.
Ar hyn o bryd mae'r cae yn cael ei dyfu yn rhywle arall cyn cael ei symud a'i osod yn y stadiwm.
Mae'r stadiwm yn gobeithio cynnal chwech o gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015.
Mae'r undeb yn credu bod y defnydd artiffisial yn ddewis amgenach i laswellt.
"Rydym yn rhoi ystyriaeth wirioneddol o'r holl opsiynau," meddai Roger Lewis, Prif Weithredwr yr Undeb.
media captionAdroddiad Iwan Griffiths
Ers i'r stadiwm agor yn 1999 mae 'na broblemau wedi bod gyda'r wyneb.
Bu'n rhaid cael cae newydd yn 2009 oherwydd pryfed a achosodd ddifrod i'r tyfiant.
Nid chwaraewyr rygbi yn unig sydd wedi cwyno.

Cymeradwyaeth

Roedd y pêl-droedwyr Aaron Ramsey ac Ashley Williams yn feirniadol ar ôl i Gymru golli yn erbyn Lloegr yn 2011 yng ngemau rhagbrofol Ewrop 2012..
Mae'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol a FIFA eisoes wedi cymeradwyo defnyddio cae artiffisial.
Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd Mr Lewis bod sawl cynnig wedi bod o dan y chwyddwydr.
Un oedd maes rhannol artiffisial a glaswellt naturiol fel sy'n cael ei ddefnyddio yn Stadiwm Liberty.
Ond bellach maen nhw'n ystyried cwbl artiffisial.
Fe fydd yr undeb yn asesu'r cynllun yn y flwyddyn newydd pan fydd y Saraseniaid yn wynebu'r Gleision yng Nghwpan LV ar Ionawr 27.
Dyma fydd y gêm rygbi proffesiynol gyntaf i'w chwarae ar gae artiffisial.

Straeon perthnasol

  • Cae newydd yn y Stadiwm ar gyfer cwpan yr FA