BBC Cymru Fyw

Tâl cyfartal: Methu dyddiad cau

Published
media captionAdroddiad Steffan Powell
Dros bum mlynedd ers y dyddiad cau pan roedd cynghorau Cymru i fod i roi taliadau cyfartal i'w gweithwyr, mae BBC Cymru wedi darganfod nad ydi mwyafrif ohonyn nhw wedi cwblhau'r broses yn llawn.
O dan ddeddfwriaeth Tâl Cyfartal, roedd awdurdodau lleol i fod i roi taliadau cyfartal i'w gweithwyr erbyn 2007, ond mae gwaith ymchwil BBC Cymru yn dangos mai dim ond tri chyngor yng Nghymru sydd wedi gwneud hyn, ac mae sawl awdurdod heb dalu ceiniog hyd yma.
Credir y bydd y gost yn cyrraedd £75m, ac mae arweinwyr cyngor yn dweud bod y pwnc yn "gymhleth iawn, iawn".

Unioni graddfeydd

Fe gytunodd cynghorau Cymru gyda'r undebau llafur ar ddiwedd y 90au y byddan nhw'n unioni graddfeydd cyflogau eu gweithwyr.
Y bwriad oedd dod ag unrhyw annhegwch oedd yn bodoli mewn graddau cyflog gweithwyr i ben. Yn hanesyddol roedd rhai dynion yn unig wedi derbyn taliadau bonws am eu gwaith, a'r bwriad oedd creu graddfeydd cyflog newydd yn seiliedig ar daliadau cyfartal i ferched a dynion.
Caiff taliadau cyfartal eu hawlio gan amlaf gan lanhawyr, cogyddion a gofalwyr sydd yn gweithio i'r cynghorau - swyddi sydd yn draddodiadol wedi cael eu gwneud gan ferched - oedd heb dderbyn yr un cyflogau â dynion yn y gorffennol.
Yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, fe ddarganfu BBC Cymru fod cyfanswm yr arian sydd wedi ei dalu neu ei glustnodi ar gyfer taliadau cyfartal wedi cyrraedd dros £75 miliwn.

£17 miliwn

image captionCredir y bydd y gost yn cyrraedd £75m
Cyngor Pen-y-bont sydd wedi talu'r ffigwr uchaf hyd yn hyn gan dalu £17 miliwn i'w gweithwyr.
Yn ail ar y rhestr o ran maint y taliadau ydi Cyngor Sir Caerfyrddin, sydd wedi talu £13 miliwn. Mae'r cyngor yma yn cyflogi tua 9,000 o staff.
Mae'n ddiddorol cymharu'r £13m yn Sir Caerfyrddin gyda'r £7.5m sydd wedi ei glustnodi gan Gyngor Caerdydd sy'n cyflogi dwywaith cymaint o weithwyr.
Nid yw cynghorau Wrecsam, Conwy na'r Fflint wedi talu ceiniog i'w gweithwyr mewn taliadau cyfartal hyd yma - ond maen nhw'n dweud fod arian wedi ei glustnodi ar gyfer hyn.
Fe ddywedodd tri chyngor arall - Torfaen, Penfro a Sir Fynwy, eu bod wedi cwblhau'r broses o unioni cyflogau yn llawn.
Dywedodd Sulyn Roberts o undeb UNSAIN: "Fe ddylai fod y Cynghorau wedi cwblhau'r broses o ddelio gyda thaliadau cyfartal flynyddoedd yn ôl".
Mae'r ymchwil yn dangos fod cynghorau Cymru wedi talu dros £60m mewn taliadau cyfartal, ac wedi clustnodi £17.5m ar gyfer taliadau caiff eu hawlio yn y dyfodol. Fe all y ffigwr fod yn uwch wrth i rhai gweithwyr ddewis mynd â'u hachosion i dribiwnlysoedd diwydiannol yn hytrach na derbyn cynigion ariannol y cynghorau.
Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru mae'r gwaith o brosesu taliadau cyfartal i weithwyr yn gymhleth ac felly dyna pam fod cynghorau wedi cymryd cymaint o amser i gwblhau'r gwaith dros y blynyddoedd diwethaf.