BBC Cymru Fyw

Norofirws mewn pum ysbyty

Published
image copyrightSPL
image captionMae 31 o gleifion wedi eu heintio gan y firws
Mae'r salwch stumog norofirws bellach yn effeithio ar bump o ysbytai gogledd Cymru.
Mae 38 o gleifion wedi eu heintio ar 11 ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Gwynedd, ac ysbytai Glan Clwyd, Bae Colwyn a Dolgellau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr i gadw draw os ydyn nhw wedi dangos symptomau o'r cyflwr dros y deuddydd diwethaf.
Mae Norofirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn ym Mhrydain.
Mae norofirws yn heintus dros ben ac yn achosi cyfog, chwydu a'r dolur rhydd.
Mae'r symptomau yn dechrau rhwng 12 a 48 awr wedi i'r person gael eu heintio, ac yn para am rhwng 12 a 60 awr.
Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws.

Straeon perthnasol

  • Norofirws yn effeithio ar ddau ysbyty yn y gogledd