BBC Cymru Fyw

Uwchgynghrair Cymru

Published
image copyrightNot Specified
Mae'r Pencampwyr, Y Seintiau Newydd, wedi dychwelyd i frig Uwch Gynghrair Cymru. O'r smotyn Alex Darlington sgoriodd unig gôl yr hanner cyntaf.
Wedi i James Bloom sgorio i'w rwyd ei hun yn gynnar yn yr ail hanner, Ryan Fraughan hawliodd y drydedd wrth i'r Seintiau ennill o dair i un ym Mhort Talbot.
Mae Bangor felly wedi llithro i'r ail safle yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Caerfyrddin.
Roedd 'na driphwynt yr un i Lanelli ac i Lido Afan.

Nos Wener

Cei Connah v Prestatyn: Gohiriwyd am fod y cae o dan ddŵr

Dydd Sadwrn:

Aberystwyth v Airbus: Gohiriwyd am fod y cae o dan ddŵr
Y Bala 1-2 Llanelli: Mark Jones (59') sgoriodd i'r Bala ac Antonio Corbisiero (80') a Martin Rose (85') i Lanelli
Bangor 2 (Ryan Edwards 39' Chris Jones 45') - 2 Caerfyrddin (Craig Hughes 7' Jonathan Hood 86')
Y Drenewydd 1 (Nicky Ward 43') - 2 Lido Afan (Mark Jones 38' Paul Evans 79')
Port Talbot 1 (David Brooks 89') -3 Y Seintiau Newydd (Alex Darlington 39'(p) James Bloom 48'(og) Ryan Fraughan 68')