BBC Cymru Fyw

Norofirws: Wyth ward wedi cau mewn pum ysbyty

Published
image copyrightSPL
image captionMae 31 o gleifion wedi eu heintio gan y firws

Mae'r salwch stumog norofirws bellach yn effeithio ar bump o ysbytai gogledd Cymru.

Mae 31 o gleifion wedi eu heintio ar dair ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam; dwy ward yn Ysbyty Gwynedd, ac un ward yr un yn ysbytai Glan Clwyd, Bae Colwyn a Dolgellau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr i gadw draw os ydyn nhw wedi dangos symptomau o'r cyflwr dros y deuddydd diwethaf.

Mae Norofirws, sy'n lledu oherwydd cysylltiad â pherson neu wrthrych wedi ei heintio, yn effeithio ar hyd at filiwn o bobl y flwyddyn ym Mhrydain.

Golchi'r dwylo yw'r ffordd orau i atal lledu'r firws sydd, fel arfer, yn dod i ben o fewn 48 awr.

Straeon perthnasol

  • Norofirws yn effeithio ar ddau ysbyty yn y gogledd