Gwahardd Lloyd Williams am bum wythnos

Lloyd Williams
Image caption Cafodd y mewnwr Lloyd Williams gerdyn coch wrth i'r Gleision golli 24-35

Mae mewnwr y Gleision Lloyd Williams wedi ei wahardd am bum wythnos wedi gwrandawiad disgyblu yn Nulyn ddydd Iau.

Cafodd y chwaraewr 23 oed ei anfon o'r cae am dacl anghyfreithlon ar Benoit Paillaugue wedi 25 o funudau o'r gêm rhwng y Gleision a Montpellier yng Nghwpan Heineken ddydd Sul.

Ni fydd y mewnwr, sydd wedi chwarae i Gymru wyth gwaith, yn chwarae eto tan Ionawr 14.

Ond bydd ar gael ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaerth y Chwe Gwlad ar Chwefror 2.

Straeon perthnasol