BBC Cymru Fyw

Norofirws yn effeithio ar ddau ysbyty yn y gogledd

Published
image copyrightSPL
image captionMae 'na gyfyngiadau ar dair ward yn Ysbyty Glan Clwyd

Mae'r salwch stumog norofeirws wedi ei ddarganfod mewn dau o ysbytai gogledd Cymru.

Yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae dwy ward ar gau i gleifion newydd, gyda thair ward arall ar gau yn rhannol.

Yn Ysbyty Glan Clwyd mae 'na gyfyngiadau ar dair ward.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gofyn i ymwelwyr i gadw draw o'r ysbytai os ydyn nhw wedi bod gyda symptomau dros y deuddydd diwethaf.

Straeon perthnasol

  • Cleifion: Atal mynediad i wardiau yn Ysbyty Llwynhelyg