Priestland 'allan am hyd at chwe mis'
- Published
Mae'n debygol na fydd maswr Cymru a'r Sgarlets Rhys Priestland yn chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi iddo anafu ei figwrn.
Cafodd Priestland, 25 oed, ei gario o'r cae wrth i'r Sgarlets golli 22-16 yn erbyn Caerwysg yng Nghwpan Heineken ddydd Sadwrn.
Cafodd y maswr lawdriniaeth fore Mawrth.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Sgarlets, Simon Easterby, na fyddai Priestland efallai'n chwarae am hyd at chwe mis.
Ar hyn o bryd mae 17 o chwaraewr Cymru wedi eu hanafu, gan gynnwys Adam Jones, Alun Wyn Jones, Jamie Roberts a George North.
Gall yr anaf olygu na fydd Priestland, sydd wedi ennill 22 o gapiau, yn cael ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Awstralia ym Mehefin 2013.
Y gred yw y bydd yr anaf yn gyfle i naill ai maswr y Gweilch, Dan Biggar, neu faswr Perpignan, James Hook, chwarae yng ngêm gyntaf Cymru y bencampwriaeth yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ar Chwefror 2.
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Rhagfyr 2012
- Published
- 24 Tachwedd 2012
- Published
- 20 Tachwedd 2012
- Published
- 10 Tachwedd 2012