BBC Cymru Fyw

Dod o hyd i gorff ar draeth

Published
image copyrightOther
image captionRoedd rhywun wedi gweld Michael Murphy yn gadael ei waith ar Ionawr 4.
Mae Heddlu Glannau Mersi wedi dweud bod corff dyn o Sir y Fflint wedi cael ei ddarganfod ar draeth yng Nghilgwri.
Diflannodd Michael Murphy o'r Wyddgrug bron blwyddyn yn ôl.
Cafodd corff y dyn 32 oed ei ddarganfod ar draeth West Kirby ddydd Mawrth.
Roedd rhywun wedi ei weld yn gadael ei waith ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy am 6am ddydd Mercher, Ionawr 4, 2012.
Daethpwyd o hyd i'w gar ar y lôn orllewinol dros y bont newydd sy'n arwain o'r stad ddiwydiannol i'r Fflint.
Bu cannoedd o wirfoddolwyr yn chwilio amdano yn y dyddiau wedi iddo fynd ar goll ac ymunodd miloedd â gwefan Missing Michael Murphy ar y wefan gymdeithasol Facebook.
'Ofnadwy'
Roedd chwaraewr canol cae Arsenal a Chymru, Aaron Ramsey, wedi cyhoeddi fideo yn apelio am wybodaeth am Mr Murphy.
Ddydd Mawrth dywedodd mam Mr Murphy, Ann Murphy: "Rydym wedi ein syfrdanu ... ar ôl gorfod aros am gyhyd ... mae hyn yn ofnadwy.
"Roedd gen i gymaint o obaith ... fo oedd fy mab.
"Mi rydan ni wedi cael help gan gymaint o bobl. Mi oeddan ni'n ei garu cymaint."

Straeon perthnasol

  • Apêl Ramsey am ddyn ar goll