BBC Cymru Fyw

'Pinsiad o halen wrth ddadansoddi'r data'

Published
image copyrightJeff Connell
image captionYn ôl cyfrifiad 2001 roedd cynnydd enfawr yn y nifer o blant a phobl ifanc oedd yn medru'r iaith
Fe fydd rhai o ganlyniadau Cyfrifiad 2011 yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Vaughan Roderick, Gohebydd Materion Cymreig BBC Cymru sy'n edrych ymlaen at y cyhoeddiad.
Roedd 'na gyfnod yn y degawdau ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan oedd caredigion y Gymraeg yn arswydo ynghylch cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad.
Pa mor wael fyddai pethau'r tro hwn? Oedd hi'n bryd dechrau torri bedd yr iaith?
Rhwng 1951 a 1981 fe ostyngodd y canran oedd yn medru'r Gymraeg o 28.9% i 18.9%.
Roedd 'na ostyngiad bach arall i 18.5% yn 1991 cyn i'r niferoedd ddechrau codi eto.
Roedd y cwestiwn ychydig bach yn fwy manwl yn 2001 ond derbynnir mai'r ffigwr o 20.8% yw'r un sy'n cyfateb i'r rhai blaenorol.
Gellir disgwyl cynnydd y tro hwn hefyd.
Ond mae angen mwy na phinsied o halen wrth ystyried y data.

Cynnydd ymhlith plant

Dyma i chi un enghraifft o pam fod angen gofal.
Roedd y cyfan o'r cynnydd rhwng 1991 a 2001 yn deillio o'r ifanc.
Tra bod sefyllfa'r Gymraeg yn parhau i ddirywio yn ei chadarnleoedd roedd 'na gynnydd enfawr yn y nifer o blant a phobl ifanc oedd yn medru'r iaith.
Dyna mae'r cyfrifiad yn ei dweud, o leiaf.
Yn ôl canlyniadau 2001 roedd 55% o blant rhwng 10 a 14 oed yn siarad neu'n deall Cymraeg.
20% o blant Cymru oedd yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg a 6% oedd yn cael eu magu ar aelwydydd Cymraeg.

Mwy na'r iaith

Mae 'na batrwm cyson wedi datblygu o rieni'n gor-ddweud ynghylch sgiliau ieithyddol eu plant.
Mae hynny'n beth calonogol yn yr ystyr bod rhieni di-Gymraeg yn ymfalchïo yn yr iaith a gallu eu plant i'w siarad.
Ond peidied neb a meddwl bod y darlun ystadegol yn dweud y cyfan o'r gwir.
Fe fydd 'na ganlyniadau eraill diddorol yn cael eu cyhoeddi hefyd.
Fe gawn wybod pa ganran o boblogaeth Cymru sy'n ystyried eu hun yn Gymry, maint ein lleiafrifoedd ethnig a'n credoau crefyddol.
Ond mae'n anorfod mae'r ffigyrau iaith fydd yn cael y sylw pennaf.