BBC Cymru Fyw

Her i'r Seintiau yng Nghwpan Cymru

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionCwpan Cymru
Fe fydd rhaid i ddeiliaid Cwpan Cymru fod yn wyliadwrus yn y bedwaredd rownd o Gwpan Cymru ddiwedd mis Ionawr.
Bydd Y Seintiau Newydd yn croesawu'r Rhyl wedi iddyn nhw roi crasfa i Aberystwyth o'r Uwchgynghrair yn y drydedd rownd ddydd Sadwrn.
Roedd angen amser ychwanegol ar y Seintiau i guro Bwrdeistref Conwy yn yr un rownd.
Bydd o leiaf tri thîm arall o'r Uwchgynghrair yn ffarwelio â'r gystadleuaeth gan y byddan nhw'n wynebu ei gilydd yn y rownd nesaf.

Pedwaredd rownd Cwpan Cymru (i'w chwarae ar Ionawr 25, 2013)

Gap Cei Conna v Bangor
Caerfyrddin v Bala
Y Barri v Pontardawe neu Goetre FC
Cas-Gwent v Hwlffordd
Tre'r Fflint v Caerau Trelái
Y Drenewydd v Airbus UK Brychdyn
Y Seintiau Newydd v Y Rhyl
Prestatyn v West End

Canlyniadau rownd 3 yn llawn :-

Aberystwyth 2-5 Y Rhyl
Lido Afan 3-4 Prestatyn
Airbus UK Brychdyn 3-0 Port Talbot
Bangor 4-1 Aberdâr
Y Barri 3-1 Ely Rangers (wedi amser ychwanegol)
Tre'r Fflint 1-0 Llanidloes
Gap Cei Conna 4-2 Llanelli
CPD Gwalchmai 0-2 Cas-Gwent
Hotspurs Caergybi 1-2 Caerfyrddin
Treffynnon 0-2 Caerau Trelài
Cyffordd Llandudno 2-3 Hwlffordd
Llanrug United 0-5 West End
Trefynwy 2-3 Y Bala
Y Drenewydd 2-0 Derwyddon Cefn
Pontardawe v Goetre (gohiriwyd - cae wedi rhewi)
Y Seintiau Newydd 3-1 Bwrdeisdref Conwy (wedi amser ychwanegol)