BBC Cymru Fyw

Damwain: Cyhoeddi enw gyrrwr fu farw yn Ystradgynlais

Published
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw gyrrwr 29 oed fu farw mewn damwain yng Nghwm Tawe fore Sadwrn.
Y dyn oedd Andrew Williams o'r Clase, Treforys.
Dim ond un cerbyd oedd yn y ddamwain ar yr A4067 rhwng Ystalyfera ac Ystradgynlais, meddai'r gwasanaeth tân.
Dywedodd y gwsanaethau brys eu bod wedi cael galwad am 8.10am.
Cafodd y ffordd ei hailagor rhwng Cyffordd A4068/B4599 (Cylchfan Aubrey) a'r B4599 Trawsffordd am 7pm.
Mae'r crwner wedi cael gwybod a dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.