BBC Cymru Fyw

Abertawe 3-4 Norwich

Published
image captionGrant Holt sgoriodd y drydedd i Norwich

Er gwaetha' ymdrech lew Abertawe mae Norwich wedi ymestyn eu rhediad i naw gêm heb golli yn yr Uwchgynghrair.

Yn yr hanner cynta' sgoriodd dau amddiffynwr yr ymwelwyr, Steven Whittaker a Sebastien Bassong, a'u capten Grant Holt.

Yn annisgwyl, roedd amddiffyn Abertawe ar fai bob tro.

Yn yr ail hanner tarodd y Cymry'n ôl - rhwydodd Michu, ei bumed gôl mewn pum gêm, ac roedd amseru rhediad Jonathan de Guzman yn berffaith.

Ciciodd Robert Snodgrass gic rydd ac roedd ail gôl Michu yn yr eiliadau ola'n rhy hwyr.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 2-1 Wigan