£82m i wella ffordd Blaenau'r Cymoedd

Daeth cadarnhad fod £82 miliwn o arian Ewrop wedi ei gymeradwyo ar gyfer gwaith i wella ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465.
Mae hynny'n golygu y gall y gwaith ddechrau ar unwaith ac fe fydd y dywarchen gyntaf yn cael ei thorri ddydd Llun gan y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth, Carl Sargeant AC.
Bydd y gwaith yn golygu lledu'r ffordd rhwng Brynmawr a Thredegar - rhyw 4.9 milltir - i fod yn ffordd ddeuol, gyda'r nod o leihau oedi a gwella diogelwch ar ran o'r ffordd ble mae sawl damwain wedi digwydd.
Fel rhan o'r cynllun bydd llwybrau seiclo ychwanegol yn cael eu darparu hefyd ynghyd â gwelliannau i'r hen A465 er budd y gymuned leol.
'Prif wythïen'
Dywedodd Mr Sargeant: "Mae'r A465 yn brif wythïen yn ein rhwydwaith drafnidiaeth, a dyma'r brif ffordd rhwng gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr.
"Ond nid mater o wella ffordd yn unig yw hwn.
"Ynghyd â gwella diogelwch a lleihau amseroedd teithio i bobl fusnes a chymudwyr, bydd lledu Ffordd Blaenau'r Cymoedd yn cyfrannu tuag at adfywiad ehangach i'r rhanbarth.