BBC Cymru Fyw

Tri yn yr ysbyty yn dilyn damwain ym Mhowys

Published
Cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn damwain rhwng dau gar ar ffordd yr A483 ym Mhowys.
Bu'n rhaid i ddiffoddwyr dorri'r tri yn rhydd o'u ceir cyn i ambiwlans a hofrennydd eu cludo i'r ysbyty.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ym Machawy rhwng Llanelwedd a Llandrindod tua 1:50pm ddydd Gwener.