Mesur 'ddim yn sicrhau y bydd mwy o organau ar gael'

Fydd mesur cyflwyno trefn rhoi organau ar ei ben ei hun ddim yn rhoi sicrwydd y bydd mwy o organau ar gael ar gyfer trawsblaniadau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae'r llywodraeth wedi cyflwyno mesur sy'n sefydlu system caniatâd tybiedig cyntaf y DU.

Yn ogystal mae gweinidogion am i deuluoedd drafod a ydyn nhw am fod yn rhoddwyr ai peidio.

Yn ôl adolygiad o dystiolaeth ryngwladol, roedd 'na "gysylltiad" rhwng y drefn newydd a chynnydd mewn rhoddwyr o hyd at 18%.

Cafodd y Mesur Drafft ar Drawsblannu Dynol (Cymru) ei gyhoeddi fis Mehefin.

Petai'r Cynulliad yn pasio'r mesur fe allai fod yn ei le erbyn 2015.

Fe fyddai'n golygu bod tybiaeth fod pawb sy'n marw yn dymuno rhoi organ oni bai eu bod yn nodi'n wahanol.

Dim hawl

Mae'r llywodraeth wedi pwysleisio na fydd meddygon yn rhoi mwy o bwysau ar deuluoedd sy'n galaru drwy fynnu eu bod yn cymryd organau, ond ni fyddai gan deuluoedd hawl gyfreithiol i atal y broses chwaith.

Hefyd mae'r ymchwil wedi dangos mai'r prif reswm yr oedd teuluoedd yn atal caniatáu rhoi organau oedd nad oedden nhw'n ymwybodol o ddymuniad unigolion.

Dywedodd y llywodraeth y byddai newid y ddeddf yn helpu egluro bwriad unigolion yn well.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Helena Jones, mam o Lyn Nedd, yn sôn am y profiad o aros am organau i'w phlant.

Mae'r ymgyrch yn galw ar bobl i gael "sgwrs galon agored yn y flwyddyn newydd gyda theulu a ffrindiau" am roi organau.

"Mae dymuniadau'r rhai sydd wedi marw yn holl bwysig," meddai'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.

"Ac mae'r mwyafrif o bobl Cymru yn disgwyl i'w dymuniadau gael eu parchu.

"Rydym yn gwybod na fyddai system optio mas meddal yn cynyddu nifer yr organau.

'Tystiolaeth'

"Mae tystiolaeth o wledydd eraill yn dangos bod angen i strwythur y Gwasanaeth Iechyd fod yn iawn cyn i'r drefn newydd weithio."

Dywedodd swyddogion eu bod yn hyderus y gallai'r Gwasanaeth Iechyd ddelio gyda'r drefn newydd.

Maen nhw'n gobeithio y bydd yn arwain at 15 o roddwyr ychwanegol a 45 yn fwy o organau ar gael i'w trawsblannu bob blwyddyn.

Fe fydd yr organau ar gael i unrhyw un yn y DU, nid yng Nghymru yn unig.

O'r 250 o roddwyr posib y llynedd, 67 adawodd organau.

Fe fyddai'r ddeddf yn effeithio ar unrhyw un dros 18 oed sy'n marw yng Nghymru ac wedi byw yma am dros chwe mis.

£8m

Bydd pobl yn gallu cofrestru o hyd a nodi eu dymuniadau os ydyn nhw'n marw y tu allan i Gymru.

Ar ôl y newid fe fydd 'na ddyletswydd ar weinidogion i'w hyrwyddo.

Mae disgwyl i £8 miliwn gael ei wario dros 10 mlynedd ar y system.

Eisoes mae 'na wrthwynebiad crefyddol wedi bod, gan gynnwys gwrthddadleuon gan gymunedau Moslemaidd ac Iddewig.

Fe fydd y mesur yn golygu trosglwyddo rhai pwerau o San Steffan i Gaerdydd.

Mae gan y Ceidwadwyr bleidlais rydd ar y pwnc ac fe ddywedodd eu llefarydd iechyd, Darren Millar, fod hwn yn fater emosiynol.

"Mae craffu ar y mesur yn parhau i fod yn bwysig.

"Mewn gwledydd lle mae'r drefn yma'n bodoli mae llai o bobl yn rhoi organau ac felly mae'n bwysig nad yw hyn yn cael ei ystyried fel yr unig ffordd o gynyddu nifer y rhoddwyr."

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi'r mesur ac mae disgwyl i grŵp Plaid Cymru wneud yr un peth.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.