BBC Cymru Fyw

Cymru'n herio Lloegr ac Awstralia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015

Published
image copyrightGetty Images
image captionSeland Newydd ydi deiliaid y cwpan ar ôl y bencampwriaeth yno yn 2011
Fe fydd Cymru'n wynebu Lloegr ag Awstralia yng Ngrŵp A Cwpan Rygbi'r Byd 2015.
Fe fyddan nhw hefyd yn wynebu dau dîm arall sydd heb sicrhau eu lle eto, un o Ynysoedd y De, Fiji fwy na thebyg, ac un o dimau y rownd ail gyfle, o bosib Uruguay.
Yng Ngrŵp B mi fydd De Affrica'n chwarae yn erbyn Samoa a'r Alban.
Mae deiliaid y Cwpan, Seland Newydd yng Ngrŵp C gyda'r Ariannin a Tonga ac fe fydd Ffrainc, Iwerddon a'r Eidal yng Ngrŵp D.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn oriel gelf y Tate Modern yn Llundain.
Fe fydd y bencampwriaeth, sy'n cael ei chynnal gan Loegr, yn cychwyn ar Fedi 18, 2015 a bydd y rownd derfynol yn Twickenham ar Hydref 31.
Mae Cymru wedi chwarae yn erbyn Lloegr ddwywaith yn y gystadlaeaeth, bob tro yn y rownd go-gynderfynol.
Cymru enillodd 16-3 yn y bencampwriaeth gyntaf yn 1987 gyda Lloegr yn ennill 16-12 yn 2003, y flwyddyn enillodd y crysau gwyn y bencampwriaeth.

Straeon perthnasol

  • Gemau Cwpan Rygbi'r Byd i'w cynnal yn Stadiwm y Mileniwm?