Cyflenwadau dŵr yn ôl wedi tridiau

Tap dŵr (cyffredinol) Image copyright Getty Images
Image caption Roedd y trafferthion wedi effeithio ar tua 7,000 o gwsmeriaid i gyd

Ar ôl tridiau o drafferthion, mae cyflenwadau dŵr wedi cael eu hadfer i bob un cartref yn y Rhondda erbyn hyn.

Roedd 300 o gwsmeriaid yng Nghwmclydach yn dal heb ddŵr brynhawn dydd Sul wedi problemau gyda phrif bibell ddŵr ym Mhontypridd ddydd Iau.

Roedd y sefyllfa wedi effeithio ar tua 7,000 o gwsmeriaid i gyd a bu'n rhaid cau 11 o ysgolion hefyd..

Dywedodd Dŵr Cymru fod peirianwyr wedi gweithio gydol y nos nos Wener a nos Sadwrn.

Yn y cyfamser, roedd poteli dŵr yn cael eu dosbarthu am ddim i gartrefi.

Fe ymddiheurodd Dŵr Cymru unwaith eto am y sefyllfa.

Cafodd cyflenwadau eu colli ddydd Gwener ac roedd Dŵr Cymru yn dweud mai'r tir yn symud wedi glaw trwm oedd yn gyfrifol.

Erbyn dydd Sadwrn, dim ond 2,000 oedd yn dal heb ddŵr, gyda'r nifer yn gostwng i 1,200 erbyn bore Sul a 300 erbyn y prynhawn.

Llinell gymorth Dŵr Cymru yw 0800 052 0130.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.