BBC Cymru Fyw

Caerdydd 1-0 Sheffield Wednesday

Published
image copyrightGetty Images
Mae Caerdydd wedi dychwelyd i frig y Bencampwriaeth ar ôl buddugoliaeth arall yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd Crystal Palace wedi codi i'r brig dros dro wedi eu buddugoliaeth nhw ddydd Sadwrn.
Cyn reolwr Caerdydd, Dave Jones, oedd yn arwain Sheffield Wednesday i'r brifddinas gyda'r bwriad o ddifetha record 100% Caerdydd ar eu tomen eu hunain.
Ac am fwyafrif y gêm roedd hi'n ymddangos y byddai'n llwyddo.
Er mai'r tîm cartref oedd yn rheoli bron bob agwedd o'r chwarae, methodd tîm Malky Mackay â chanfod ffordd o sgorio am gyfnod hir.
Fe gafodd Caerdydd ymhell dros 20 cynnig a y gôl gyda 15 ohonyn nhw ar y targed.
Ond rhywsut fe lwyddodd cyn golwg Lloegr, Chris Kirkland, i rwystro'n cynigion tan ddeng munud cyn diwedd y gêm.
Dyna pryd y daeth Joe Mason o hyd i Craig Conway yn y cwrt cosbi, ac fe daniodd ei ergyd yn isel i gornel chwith y rhwyd i roi Caerdydd ar y blaen.
Mae Caerdydd felly wedi cael deg buddugoliaeth mewn deg gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd - record sy'n cadw'r gobeithion o esgyn i'r Uwchgynghrair yn fyw iawn.