BBC Cymru Fyw

Arsenal 0-2 Abertawe

Published
image captionMichu sgoriodd ei nawfed a'i ddegfed gôl y tymor hwn.
Arsenal 0-2 Abertawe
Mae cefnogwyr yr Elyrch wedi dechrau arfer gyda chanlyniadau campus tîm Michael Laudrup.
Ond roedd y fuddugoliaeth yn Stadiwm Emirates ddim yn annisgwyl o weld y perfformiad, ac mae'n codi Abertawe i'r seithfed safle yn y tabl.
Y Sbaenwr Michu oedd yr arwr unwaith eto. Dwy gôl iddo yntau - ei nawfed a degfed yn y cynghrair y tymor hwn - ac fe allai Abertawe fod wedi cael mwy.
Abertawe gafodd mwyafrif y meddiant, mwy o ergydion at y gôl a'r symudiadau gorau.
Er hynny roedd rhaid aros tan y munudau olaf i weld ffrwyth eu llafur.
Luke Moore greodd y gyntaf i Michu wedi 88 munud.
A chyn i gefnogwyr Arsenal gael eu gwynt atynt, roedd y Sbaenwr wedi ychwanegu ail yn yr amser ychwanegwyd am anafiadau.
Fe fydd cefnogwyr Abertawe yn dechrau breuddwydio am le yng nghystadlaethau Ewrop y tymor nesaf.

Straeon perthnasol

  • Abertawe 2-1 Wigan