BBC Cymru Fyw

Prestatyn yn methu cyfle

Published
image copyrightNot Specified

Port Talbot 1-0 Prestatyn

Methodd Prestatyn fanteisio ar gyfle i godi i frig Uwchgynghrair Cymru, am ychydig oriau o leiaf, wrth iddyn nhw golli ym Mhort Talbot brynhawn Sadwrn.

Daniel Thomas sgoriodd unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf i sicrhau bod Prestatyn yn aros yn yr ail safle cyn i'r Seintiau Newydd ymweld â Bangor yn y gêm hwyr.

Lido Afan 2-1 GAP Cei Connah

Roedd dwy gêm arall yn dechrau am 2:30pm, ac roedd sioc yn un wrth i'r tîm ar waelod yr adran, Lido Afan, guro Cei Connah.

Roedd y tîm cartref ddwy ar y blaen ar yr egwyl diolch i Chris Hartland a chic o'r smotyn gan Mark Jones.

Er i'r ymwelwyr gael un yn ôl gyda phedwar munud yn weddill, doedd hynny ddim yn ddigon.

Caerfyrddin 1-1 Y Bala

Dwy gic o'r smotyn benderfynnodd y canlyniad yng Nghaerfyrddin.

Daeth un gan Lee Hunt i roi'r Bala ar y blaen yn yr hanner cyntaf.

Roed rhaid aros tan y funud olaf am yr ail gan Liam Thomas i gipio pwynt pwysig i Gaerfyrddin.

Gemau nos Wener

Airbus UK Brychdyn 2-1 Y Drenewydd

Roedd Airbus yn croesawu'r Drenewydd - tîm sydd wedi cael buddugoliaethau da oddi cartref yn erbyn Llanelli a'r Seintiau Newydd yn ddiweddar.

Ond y tîm o Frychdyn aeth ar y blaen gyda chynnig Mike Hayes wedi 18.

Cyn yr egwyl roedd hi'n gyfartal, gyda Keiran Mills-Evans yn sgorio i'r ymwelwyr, ond Airbus gafodd y triphwynt diolch i gôl Chris Budrys yn yr ail hanner.

Llanelli 0-0 Aberystwyth

Yn y gêm arall chwaraewyd nos Wener, gêm ddi-sgôr gafwyd ar Barc Stebonheath rhwng Llanelli ac Aberystwyth.

Mae'r ddau ganlyniad yn golygu bod Llanelli wedi codi uwchben Y Drenewydd, ac allan o'r ddau safle gwaelod yn y tabl.