Uwchgynghrair Cymru

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Not Specified

Roedd dwy gêm yn Uwchgynghrair Cymru nos Wener, a dim ond Airbus UK Brychdyn gafodd y pwyntiau llawn.

Airbus UK Brychdyn 2-1 Y Drenewydd

Roedd Airbus yn croesawu'r Drenewydd - tîm sydd wedi cael buddugoliaethau da oddi cartref yn erbyn Llanelli a'r Seintiau Newydd yn ddiweddar.

Ond y tîm o Frychdyn aeth ar y blaen gyda chynnig Mike Hayes wedi 18.

Cyn yr egwyl roedd hi'n gyfartal, gyda Keiran Mills-Evans yn sgorio i'r ymwelwyr, ond Airbus gafodd y triphwynt diolch i gôl Chris Budrys yn yr ail hanner.

Llanelli 0-0 Aberystwyth

Yn y gêm arall chwaraewyd nos Wener, gêm ddi-sgôr gafwyd ar Barc Stebonheath rhwng Llanelli ac Aberystwyth.

Mae'r ddau ganlyniad yn golygu bod Llanelli wedi codi uwchben Y Drenewydd, ac allan o'r ddau safle gwaelod yn y tabl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol