BBC Cymru Fyw

Goleuo'r gamlas ar ddiwedd blwyddyn o ddathlu

Published
image copyrightOther
image captionMae 'na 200 mlynedd ers i'r gamlas agor
Bydd cymunedau ar hyd camlas Mynwy ac Aberhonddu yn 'Goleuo'r gamlas' gyda llusernau a cherfluniau tân ar ddydd Sadwrn.
Mae'r digwyddiad yn dod â blwyddyn o ddathliadau i nodi 200 mlynedd ers agor y gamlas i ben.
Bydd cloch yr eglwys ger Basin Pont-y-Moel yn canu i ddechau'r digwyddiad yn y bore a bydd yn cael ei ddilyn gan glychau'r eglwysi eraill ar hyd y gamlas.
Bydd yr eglwys olaf yn canu ei chloch am 6pm ac ar yr un amser bydd gorymdaith o lusernau yn cychwyn tuag at fasin y gamlas.
Bydd y llusernau'n cael eu rhoi ar wyneb y dŵr er mwyn goleuo'r gamlas a bydd cerfluniau tân, perfformwyr stryd a cherddoriaeth i ddiddanu ymwelwyr.
Meddai Carol Williams, Swyddog Prosiect ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:
"Mae dathliadau i nodi daucanmlwyddiant Camlas Mynwy ac Aberhonddu wedi cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn, ond rydym yn sicr wedi cadw'r gorau tan y diwedd gyda 'Goleuo'r gamlas'.
"Bydd y digwyddiad yn deyrnged wirioneddol addas i dirnod hanesyddol sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o fywyd yma yn y Bannau Brycheiniog a thu hwnt am gymaint o flynyddoedd."
Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn gan gynnwys ail greu'r agoriad cyntaf yn 1812 ym Masin Pont-y-Moel.

Straeon perthnasol

  • Dathliadau i nodi 200 mlynedd Camlas Mynwy ac Aberhonddu