Prop Cymru a'r Gweilch Aaron Jarvis allan am y tymor
- Published
Ni fydd prop Cymru a'r Gweilch Aaron Jarvis ddim yn chwarae eto'r tymor hwn yn dilyn anaf difrifol i'w ben-glin.
Bydd angen llawdriniaeth ar ben-glin y prop pen tyn 26 oed wedi iddo ddioddef yr anaf ar ôl munud o'r gêm wnaeth Gymru golli 33-10 yn erbyn y Crysau Duon ddydd Sadwrn diwethaf.
Jarvis yw trydydd prop pen tynn y Gweilch i gael ei anafu yn ystod y mis diwethaf.
Mae Adam Jones (pen-glin) a Joe Rees (gwddf) hefyd wedi eu hanafu ac ni fyddan nhw'n chwarae yn erbyn Toulouse yng Nghwpan Heineken.
Daeth prop y Gleision Scott Andrews oddi ar y fainc i gymryd lle Jarvis yn erbyn Seland Newydd ac mae'n debygol o gynrychioli ei wlad am y bedwaredd tro yn y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.
Mae'n rhaid i Gymru guro Awstralia i barhau o fewn yr wyth detholyn uchaf yn y byd fydd yn golygu bydd ganddynt grŵp haws yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd nesaf yn 2015.