BBC Cymru Fyw

Derby 1-1 Caerdydd

Published
image copyrightGetty Images

Mae Caerdydd wedi aros ar frig y Bencampwriaeth ar ôl cipio pwynt oddi cartref yn Derby.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 11 munud pan darodd peniad Mark Hudson daro'r postyn, ond roedd Heidar Helguson yno i rwydo.

Y tîm cartref oedd yn rheoli am weddill yr hanner ond roedd amddiffyn yr ymwelwyr yn gadarn, ac ychydig o waith gafodd David Marshall i'w wneud rhwng y pyst.

Ond fe newidiodd pethau yn yr ail hanner.

Cafodd Craig Noone gerdyn melyn am dacl fler wedi 58 munud. Doedd neb yn dadlau gyda'r penderfyniad.

Yna dri munud yn ddiweddarach, aeth Noone am dacl arall fler - doedd dim dewis gan y dyfarnwr ond dangos ail gerdyn melyn ac felly cerdyn coch i Noone.

Gwelodd Derby eu cyfle, ac wedi 69 munud fe ddaeth gôl - Theo Robinson yn unioni'r sgôr.

Brwydrodd Caerdydd yn ddewr am yr hanner awr oedd yn weddill, gyda Derby'n ymosod yn ddibaid.

Llwyddodd tîm Malky Mackay i ddal eu gafael ar y pwynt, a hynny drwy glirio ergyd oddi ar y llinell ym munud olaf yr amser ychwanegwyd am anafiadau.

Roedd bonws i Gaerdydd wrth i ganlyniadau gemau eraill yn yr adran olygu eu bod nhw'n aros ar frig tabl y Bencampwriaeth.