BBC Cymru Fyw

Heddlu'n ymchwilio wedi marwolaeth dyn ym Mhort Talbot

Published
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio ar ôl marwolaeth sydyn dyn 19 oed ym Mhort Talbot.
Cafwyd hyd i gorff y dyn yn ardal Ffordd Afan yn y dref tua 1:30pm ddydd Llun.
Dywed yr heddlu nad yw'n trin ei farwolaeth fel un amheus.
Mae perthnasau'r dyn wedi eu hysbysu ynglŷn â'i farwolaeth.