Gohirio enwi tîm Cymru am 48 awr oherwydd anafiadau
- Published
Fydd tîm Cymru ar gyfer eu gêm olaf y flwyddyn hon yn erbyn Awstralia ddim yn cael ei gyhoeddi am 48 awr arall.
Roedd disgwyl i Gymru gyhoeddi'r tîm ddydd Mawrth ond oherwydd anafiadau sawl chwaraewr yn y gêm yn erbyn Seland Newydd mae'r tîm rheoli wedi gohirio'r cyhoeddiad.
Collodd Gymru o 10-33 yn erbyn y Crysau Duon.
Dau yn sicr sydd allan o'r tîm, y prop Aaron Jarvis (anafiadau i'w ben-glin) a'r clo Bradley Davies (anafiadau i'w ben).
Bu'n rhaid i Davies dreulio'r noson yn yr ysbyty nos Sadwrn ar ôl chwarae brwnt Andrew Hore yn yr ail funud.
"Cafodd dipyn o ergyd a fydd e ddim ar gael i ni ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia," meddai hyfforddwr cynorthwyol Cymru, Rob Howley.
"Does dim lle ar y maes rygbi i'r hyn wnaeth Hore.
"Mae'n gwbl warthus."
Mwy o anafiadau
Bydd Hore yn wynebu gwrandawiad disgyblu ddydd Mercher.
Mae 'na bump arall wedi cael eu hanafu.
Doedd y canolwr Jamie Roberts (anafiadau i'w glun) ddim yn ymarfer ddechrau'r wythnos ac mae Ryan Jones wedi cael pwythau oherwydd anafiadau i'w ben.
Cafodd y tri arall, Dan Biggar (ysgwydd), Ian Evans (pen-glin) a George North (clun) anafiadau mewn gemau blaenorol.
Roedd disgwyl i Biggar hyfforddi ddechrau'r wythnos tra bod Evans yn disgwyl prawf ffitrwydd.
Mae North yn dal i wella ac fe allai ddychwelyd i'r tîm ddydd Sadwrn.
Oherwydd anafiadau cyn gemau'r hydref i Adam Jones a Craig Mitchell mae gan Gymru broblem yn y rheng flaen.
Mae dau o chwaraewyr wedi dychwelyd i'w clybiau, Paul James (Caerfaddon) a James Hook (Perpignan).
Ond mae Luke Charteris (Perpignan), Gethin Jenkins (Toulon) a Mike Phillips (Bayonne) wedi aros gyda'r garfan.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Tachwedd 2012