Elusen yn rhoi cyfle i siaradwyr ysbrydoli disgyblion
- Cyhoeddwyd
Ehangu gorwelion a chodi gobeithion pobl ifanc yw bwriad elusen newydd, Siaradwyr i Ysgolion.
Syniad Golygydd Busnes y BBC, Robert Peston, yw'r elusen.
Yr wythnos hon mae'n cael ei lansio yng Nghymru wrth i siaradwyr cyhoeddus annerch ysgolion.
Cafodd ei sefydlu flwyddyn yn ôl yn Lloegr.
Mae'r siaradwyr o gefndiroedd amrywiol, o fyd busnes, cyfryngau, diwylliant, gwleidyddiaeth a bywyd academaidd.
Dywedodd Mr Peston y dylai disgyblion ysgolion a cholegau mewn ardaloedd difreintiedig gael clywed siaradwyr ysbrydoledig fel y rhai sy'n mynd i ysgolion preswyl.
"Mae ein dyfodol ffyniannus i raddau yn dibynnu ar godi dyheadau pobl ifanc ac mae clywed siaradwyr gwych yn rhan o hyn," meddai Mr Peston.
"Imi, mae'n gyffrous fod cymaint o siaradwyr da'n cymryd rhan yn y lawnsiad Cymreig."
Un o'r siaradwyr ydi'r gwleidydd Cynog Dafis, cyn AS a AC Plaid Cymru.
"Braint yw cael bod yn rhan o fenter Siaradwyr i Ysgolion yng Nghymru lle y mae ein hysgolion gwladwriaethol yn darparu addysg i fwyafrif disgyblion ac yn ymrwymedig i'r syniad cyfun," meddai.
"Mae'n hollbwysig fod pobl ifanc yn cael eu hysgogi i wybod mwy am faterion pwysig y dydd a bydd Siaradwyr i Ysgolion yn cyfrannu at y broses."