Rhybudd am beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau
- Cyhoeddwyd
Bydd yr ymgyrch flynyddol i dynnu sylw at beryglon gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth.
Y llynedd cafodd 27,744 o fodurwyr ar draws Cymru eu profi yn ystod yr ymgyrch.
Roedd 545 o unigolion (2%) naill ai wedi profi'n bositif neu'n gwrthod/methu â chymryd prawf anadl.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r De, Richard Lewis, fod ychydig iawn o alcohol yn cael effaith ar allu pobl i yrru, felly'r unig ddewis diogel ydy peidio yfed o gwbl.
"Mae'n bwysig cofio hefyd fod diod gyda'r nos yn gallu golygu eich bod dros y trothwy cyfreithiol wrth yrru'r bore trannoeth.
"Rydym yn annog y cyhoedd i gysylltu â'r heddlu os ydyn nhw'n ymwybodol o unrhyw un yn yfed a gyrru.
"Gallai'r alwad ffôn honno achub bywyd y Nadolig hwn."