BBC Cymru Fyw

Zebre 7-14 Gleision

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Tair cic gosb yn yr ail hanner gan y maswr Ceri Sweeney wnaeth sicrhau buddugoliaeth gystadleuol i'r Gleision yn erbyn Zebre o'r Eidal.

Roedd cais Samuel Pace wedi rhoi gobaith i'r Eidalwyr ar ôl 18 munud.

Cododd eu gobeithion am fuddugoliaeth cynta'r tymor ar ôl i'r wythwr Robin Copeland gael ei anfon i'r gell cosb.

Croesodd y prop Nathan Trevett i'r ymwelwyr ar ôl 27 munud, gan olygu fod Zebre 7-5 ar y blaen ar yr egwyl.