Barnsley 1-2 Caerdydd
- Published
image copyrightGetty Images
Mae Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth ar ôl buddugoliaeth oddi cartref yn Barnsley.
Aeth Caerdydd ar y blaen wedi 22 munud gyda pheniad gan Ben Nugent oddi ar cornel Peter Whittingham.
Ond aeth tîm y brifddinas i gysgu am y rhan fwyaf o'r hanner cyntaf a dylai Barnsley wedi sgorio ar ddau achlysur.
O fewn pum munud i'r ail hanner roedd Caerdydd dwy ar y blaen, ergyd Aron Gunnarsson yn canfod cefn y rhwyd.
Fe wnaeth Jacob Mellis sgorio sgorio gôl haeddiannol i Barnsley gyda 15 munud yn weddill.
Cafodd Simon Lappin ei anfon o'r cae yn y munud olaf ar ôl derbyn ail garden felen.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol