BBC Cymru Fyw

Uwchgynghrair Cymru

Published
image copyrightNot Specified
Dydd Sadwrn
Lido Afan 2-3 Bangor
Gyda y Seintiau Newydd yn colli yn anisgwyl gartref i Gaerfyrddin, Bangor sydd frig yr Uwchgynghrair.
Goliau gan Sion Edwards, Liam Brownhill a Chris Curtis wnaeth sicrhau'r pwyntiau i'r ymwelwyr.
Aberystwyth 3-0 Cei Conna
Roedd yn ail fuddugoliaeth yn olynol i Aberystwyth am y tro cynta'r tymor hwn. Y sgorwyr i'r tîm cartref oedd Cledan Davies, Jordan Follows a Declan Carroll.
Airbus 5-0 Port Talbot
Buddugoliaeth gyffyrddus i'r tîm cartef gyda goliau gan Wayne Riley (dau), Jordan Johnson, Mike Hayes a Steve Abbott.
Y Drenewydd 1-1 Llanelli
Gôl Andy Jones i'r Drenwydd roddodd ddiwedd ar obeithion Llanelli o godi o waelodion yr Uwchgynghrair. Roedd Lloyd Grist wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen.
Prestatyn 1-0 Bala 0
Michael Parker sgoriodd unig gol y gêm, ond roedd hynny'n ddigon i weld Prestatyn yn codi i'r ail safle.
Seintiau Newydd 0-3 Caerfyrddin
Sioc mawr y dydd oedd i'r Seintiau Newydd oedd ar frig yr adran gael crasfa gartref.
Paul Fowler (3'), Nicky Palmer (18') aLiam Thomas (74') sgoriodd i'r ymwelwyr.