BBC Cymru Fyw

George North wedi cael anaf ac allan o dîm Cymru i herio'r Crysau Duon

Published
image copyrightGetty Images
image captionCafodd George North anaf i'w glun wrth ymarfer ddydd Mawrth

Fydd George North ddim yn wynebu Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Mae'r asgellwr wedi cael anaf i'w glun wrth ymarfer ddydd Mawrth.

Liam Williams fydd yn cymryd ei le ac yn ennill ei ail gap.

Bydd North yn aros gyda'r garfan ar gyfer derbyn triniaeth.

Gobaith hyfforddwyr tîm rygbi Cymru yw y bydd North wedi gwella mewn pryd i herio Awstralia ar Ragfyr 1.

Enillodd Williams ei gap cyntaf wrth i Gymru herio'r Barbariaid yn Stadiwm y Mileniwm y llynedd. Roedd yn rhan o'r garfan deithiodd i Awstralia yn gynharach eleni ond dydi o ddim wedi chwarae dros ei wlad ers y llynedd.

Roedd ar y fainc i herio'r Ariannin bythefnos yn ôl. Mae'r chwaraewr 21 oed yn chwarae'n gyson dros Y Scarlets fel cefnwr.

Straeon perthnasol

  • Pum newid cyn wynebu Seland Newydd