BBC Cymru Fyw

Diffoddwyr yn achub ceffyl a ddisgynnodd i dwll

Published
image copyrightKelsey Rees-Dykes
image captionCyn... Diffoddwyr yn codi Wesley o'r twll wedi iddo fynd yn sownd ben i waered
Fe gafodd ceffyl ddihangfa ffodus wedi iddo ddisgyn i fewn i dwll a chael ei ddal ben i waered.
Bu'n rhaid i griw o ddiffoddwyr ddefnyddio peiriant winsh arbennig i godi'r ceffyl - o'r enw Wesley - gerfydd ei goesau o'r twll mewn cae ym Mae Cinmel, sir Conwy.
Aeth y ceffyl yn sownd wedi iddo ddianc i gae cymydog.
Dywedodd y perchennog Kelsey Rees-Dykes ei bod yn ofni'r gwaethaf pan ddaeth o hyd i Wesley, ond llwyddodd i ddianc heb anaf.
Fe ddisgrifodd y ceffyl naw mlwydd oed fel creadur direidus oedd wedi ceisio dianc drwy'r ffens o'r blaen.
'Ffodus iawn'
Roedd popeth yn iawn y noson gynt, meddai, ond fe welodd ei chymydog bod rhywbeth o'i le fore Mawrth.
"Dywedodd y milfeddyg ei fod wedi bod yn ffodus iawn," meddai Ms Rees-Dykes, sy'n gweithio mewn canolfan farchogaeth.
"Roeddwn i'n bryderus iawn i ddechrau, ac yn meddwl y byddai pethau'n ddrwg iawn."
Roedd angen cymorth tua dwsin o ddiffoddwyr i godi'r ceffyl o'r twll ac fe gymrodd hi dair awr i wneud hynny.
Fe gafodd swyddogion oedd wedi cael hyfforddiant i achub anifeiliaid gydag offer arbenigol ei gyrru i'r safle gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Ychwanegodd Ms Rees-Dykes fod y ceffyl yn bryderus oherwydd bod cynifer o bobl o'i amgylch, ac nad oedd yn medru amddiffyn ei hun na sefyll ar ei draed.
image copyrightKelsey Rees-Dykes
image captionAc ar ôl... Ms Rees-Dykes gyda Wesley wedi iddo gael ei achub