BBC Cymru Fyw

Salon yn Aberystwyth ddim yn talu isafswm cyflog

Published
image captionDywedodd Mr Lloyd ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad
Mae perchennog salon trin gwallt wedi cael ei orchymyn i dalu mwy na £1,800 i ddau aelod staff am nad oedd wedi talu'r isafswm cyflog iddyn nhw.
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddygodd yr achos yn erbyn Richard Lloyd Haidressing o Aberystwyth.
Roedd £1,826.45 yn ddyledus i'r ddau weithiwr.
Dywedodd Mr Lloyd ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.
Yr isafswm cyflog yw £6.19 yr awr i bobl dros 21 oed, £4.98 yr awr i bobl ifanc rhwng 18 a 20 oed, £3.69 yr awr i rai dan 18 oed a £2.65 yr awr i brentisiaid.
Dywedodd yr adran eu bod wedi dwyn yr achos o dan ddeddf 1998 yn erbyn Nick Shaw sy'n masnachu fel Richard Lloyd Hairdressing.
Nid oedd y cwmni wedi talu'r isafswm i'r ddau aelod staff rhwng mis Medi 2010 a mis Gorffennaf 2011.

'Gweithredu'r ddeddf'

Dywedodd Michelle Wyer, dirprwy gyfarwyddwr isafswm cyflog yr adran, fod y salon wedi "methu â gweithredu eu hoblygiadau cyfreithiol".
"Ein nod yw gweithredu'r ddeddf a gwarchod gweithwyr ...
"Rydym yn fodlon rhoi cyngor i gyflogwyr a datrys problemau'n gynnar ond fe fyddwn ni'n ceisio gwarchod yn gyfreithiol y bobl sydd angen help."
Bydd rhaid i'r salon dalu ôl-ddyledion a chostau i £97 o fewn 28 diwrnod wedi'r achos yn Llys y Sir Northampton ar Dachwedd 13.
Dywedodd yr adran mai rhif y llinell gymorth oedd 0800 917 2368.

Straeon perthnasol

  • Llywodraeth Cymru: Amddiffyn polisi diweithdra