Cynghorwyr yn Sir Gâr i drafod cynllun fferm wynt
- Cyhoeddwyd

Mae'r cyfarfod yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Mae aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr yn trafod cais dadleuol i godi fferm wynt 21 tyrbin.
Eisoes mae swyddogion cynllunio wedi argymell gwrthod caniatâd cynllunio i'r cynllun i godi'r tyrbinau ar Fynydd Llanllwni ger Llanybydder.
Aeth cynghorwyr i'r safle arfaethedig fore Mawrth cyn y cyfarfod.
Wrth iddyn nhw ymgynnull yn Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin roedd yr oriel gyhoeddus yn orlawn.
Mae'r cyngor wedi derbyn 370 o lythyrau yn erbyn y cais i godi'r tyrbinau ar dir fferm Bryn Llywelyn.
Mae'r safle o fewn ardal Tan 8.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi Tan 8, cyfyngu datblygiadau ffermydd gwynt enfawr i saith ardal benodol yng Nghymru.
Cwmni RES sy'n gwneud y cais cynllunio.
Straeon perthnasol
- 14 Tachwedd 2012
- 14 Tachwedd 2012
- 13 Tachwedd 2012
- 25 Medi 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol