BBC Cymru Fyw

Un o oroeswyr Trychineb Munich, Kenny Morgans, wedi marw

Published
image copyrightGetty Images
image captionCafodd Kenny Morgans ei ganfod yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren wedi trychineb Munich
Mae un o gyn-chwaraewyr Manchester United, y Cymro Kenny Morgans, wedi marw yn 73 oed.
Roedd yn un o oroeswyr trychineb Munich yn 1958.
Wedi ei eni yn Abertawe, gadawodd yr ysgol yn 1955 ac ymuno gydag United.
Dwy flynedd yn ddiweddarach fe wnaeth chwarae am y tro cyntaf i'r prif dîm yn erbyn Caerlŷr.
Cafwyd hyd iddo yn anymwybodol yng ngweddillion yr awyren ym Munich gan ddau newyddiadurwr bum awr wedi i'r chwilio ddod i ben.
Wedi iddo wella o'i anafiadau fe wnaeth parhau gyda'i yrfa pêl-droed.
Gadawodd Old Trafford yn 1961 ar ôl chwarae 23 gwaith i'r tîm cyntaf.
Dychwelodd i Gymru ac ymuno gydag Abertawe cyn gorffen ei yrfa yn chwarae i Gasnewydd.
Mewn datganiad dywedodd clwb Manchester United bod Mr Morgans wedi cael ei daro'n wael ddydd Sadwrn cyn marw yn yr ysbyty.