Dreigiau 20-30 Northampton

Image copyright Arall
Image caption Cafodd hyd yn oed y gwibiwr Tonderai Chavhanga ei gornelu

Dreigiau 20-30 Northampton

Doedd tri chais Tonderai Chavhanga ddim yn ddigon wrth i'r Dreigiau golli i Northampton yng Nghwpan yr LV.

Ar yr egwyl roedd y Cymru ar y blaen o 10-6 wedi i Chavhanga, yr asgellwr o Dde Affrica, groesi'r llinell. Tom Prydie drosodd.

Ond tarodd Northampton yn ôl oherwydd cais y blaenasgellwr, Phil Dowson.

Gyda phrop y Dreigiau, Nathan Buck, yn y gell gosb aeth Northampton ymhellach ar y blaen diolch i gais yr asgellwr, Jamie Elliott.

Ychwanegodd Chavhanga ddau gais arall ond roedd y llanw'n rhy uchel - ciciodd Ryan Lamb bum cic gosb, un gic adlam ac roedd ei drosiad yn llwyddiannus.