BBC Cymru Fyw

Mentrau busnes: Nifer yn treblu

John Stevenson
Gohebydd Gwleidyddol

Published
image captionGall person ifanc wneud cais i gronfeydd eraill, gan gynnwys cynllun cynnig cymorth ymarferol i egin-fusnesau.
Mae teirgwaith yn fwy o bobol ifanc yn ymwneud â sefydlu busnesau yng Nghymru nag oedd ddegawd yn ôl.
Nododd adroddiad gafodd ei baratoi i gydfynd ag Wythnos Mentergarwch Byd fod nifer y bobol ifanc rhwng 18 a 29 oed wedi codi o 3.4% yn 2002 i 9.7%.
Mae Llywodraeth Cymru eisioes yn gwario £4 miliwn y flwyddyn ar bobol ifanc â diddordeb mewn sefydlu busnes.
Hefyd gall person ifanc wneud cais i gronfeydd eraill, gan gynnwys cynllun cynnig cymorth ymarferol i egin-fusnesau.
Dywedodd rhai arweinwyr busnes y dylai'r llywodraeth wneud mwy.

'Monitro'

Ar raglen y Politics Show ar BBC Cymru dywedodd Ann Milewski ar ran Ffederasiwn y Busnesau Bach fod y llywodraeth yn gwneud gwaith clodwiw.
"Ond mae angen i bwyllgor Cynulliad fonitro'r gwaith ... mae angen gwybod am effeithiolrwydd y cynlluniau ar gyfer pobol ifanc a dysgu gwersi er mwyn gwella."
Eisoes mae'r BBC yn noddi cynllun Prentis Ifanc ond mae sawl cynllun arall ar waith mewn ysgolion a cholegau.
Y llynedd enillodd Dojo Arcade o Brifysgol Morgannwg wobr am ddyfeisio gêm gyfrifiadurol sy'n cael ei gwerthu ar draws y byd.
Barn Tobias Johnson, un o'r dyfeiswyr, yw bod help ar gael ond bod angen mwy.
"Mae na fwy a mwy o bobol yn gadael ysgolion a phrifysgolion y dyddiau hyn gyda chymwysterau a syniadau ond does dim digon o gyfleoedd i wireddu'r addewidion."

Hunanhyder

Dywedodd adroddiad Mentergarwch Byd fod hunanhyder yn isel ac yng Nghymru dim ond 17.7% o'r rhai gafodd eu holi oedd yn credu bod cyfleoedd ar gael dros y chwe mis nesaf.
Y ffigwr ar gyfer gweddil y Deyrnas Gyfunol yw 27.9%.
Ers hanner canrif mae elusen Mentergarwch Ifanc wedi bod yn gweithio gyda pobol ifanc i feithrin arweinwyr busnes y dyfodol.
Y llynedd cafodd 150 o egin-fusnesau eu sefydlu mewn ysgolion yng Nghymru a hynny yn denu ymrwymiad 2,000 o ddisgyblion.
Llwyddodd disgyblion Blwyddyn 11 Ysgol Stanwell ym Mhenarth i ennill gwobr am gyllunio a marchnata.
Dywedodd athrawon a disgyblion fod y bobol ifanc ar eu hennill drwy ddysgu sgiliau megis rheoli amser, penderfynu ac arwain.

Straeon perthnasol

  • Hwb o £5m