BBC Cymru Fyw

Cerddwr 72 oed wedi marw

Published
image copyrightArall
image captionCyrhaeddodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali
Bu farw cerddwr 72 oed ddydd Gwener ar ôl iddo syrthio 200 troedfedd yn Eryri.
Roedd y dyn yn cerdded gyda phump o gyfeillion pan syrthiodd ar lethr ar fynydd Y Garn.
Cafodd naw aelod Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn eu hanfon o Borthmadog ychydig cyn 2pm.
Cyrhaeddodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali ac aed â'r dyn i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Wedyn cyhoeddwyd ei fod wedi marw.

Straeon perthnasol

  • Achub disgyblion o'r Wyddfa